Sefydliad celf weledol wedi ei leoli yng Nghymru â’i bwyslais ar y rhyngwladol yw Artes Mundi. Yn sylfaen iddo mae arddangosfa a gynhelir bob yn ail flwyddyn, yn ogystal â phartneriaethau a phrojectau creadigol. Er mwyn dathlu ei ddegfed fersiwn gofynnwyd i Ein Byd Gweledol gynorthwo i adeiladu ar eu perthynas â’r gymuned fyddar drwy gefnogi creu cwrs hyfforddi ar gyfer Arweinwyr Teithiau BSL. Galwodd Ein Byd Gweledol ar arbenigedd dau arweinydd teithiau BSL sy’n gweithio yn Lloegr – John Wilson a Rubbena Auranzeb – Tariq i greu rhaglen hyfforddi. Esgorodd Galwad Cymru gyfan ar 7 myfyriwr o bob cwr o’r wlad lwyddodd oll i gyflawni’r hyfforddiant dwys ar lein ac yn y cnawd yn llwyddiannus. Ar ddiwedd yr hyfforddiant hwn, cyflawnwyd teithiau BSL yng Nghanolfan Chapter, Caerdydd, Oriel Glynn Vivian, Abertawe, Oriel Davies y Drenewydd ac Oriel Mostyn Llandudno. Ac yn awr mae gan Gymru saith Arweinydd Taith BSL hyfforddedig, wedi eu lleoli yn Ne a Gogledd Cymru.
