Croeso i'n byd gweledol
Cefnogi Artistiaid Gweledol Byddar yng Nghymru

Pwy Ydym Ni
Rhwydwaith wedi ei redeg gan Artistiaid Gweledol Byddar ac arweinydd yng Nghymru
Cymuned yw Ein Byd Gweledol sy’n ymroi i gynorthwyo Artistiaid Gweledol Byddar ledled Cymru. Fel grŵp rhwydweithio newydd ei sefydlu, yr ydym yn darparu platfform sy’n galluogi Artistiaid Gweledol Byddar i ymgysylltu, rhannu profiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd.
Yr ydym yn gweithredu fel asiantaeth ar gyfer Artistiaid Gweledol Byddar, gan gynnig ystod o wasanaethau wedi eu teilwra I gwrdd ag anghenion ein cymuned:

Teithiau tywys IAP/BSL
Arweinir ein teithiau IAP/BSL gan Dywyswyr taith byddar wedi eu hyfforddi’n arbennig. Gallant gael eu teilwra ar gyfer eich sefydliad, oriel, amgueddfa neu ofod arddangos.

Ymynghoriaeth Mynediad
Gall ein tîm llwyr Fyddar gynorthwyo eich sefydliad a/neu eich cwmni i greu cynllun ar gyfer gwella eich offer ar gyfer cynulleidfaoedd Byddar.

Gweithdai Creadigol
Mae ein Hartistiaid Gweledol Byddar yn cynnig hyfforddiant creadigol arbenigol a chyfleoedd i gyfranogi mewn gweithdai.
Dilynwch newyddion diweddaraf Ein Byd Gweledol
Cysylltwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn cael eich diweddaru am ein digwyddiadau a’n mentrau newydd.

Ydych chi’n chwilio am gyfarwyddyd o ran hunan-gyflogaeth, Mynediad at Waith, Dogfennau Mynediad neu ddyrchafiad?
Mae ein digwyddiadau ar lein yn mynd i’r afael â’r pynciau hanfodol hyn a mwy, gan eich galluogi i ffynnu fel hunanliwtiwr creadigol.