Meet the Artists


Artist Byddar a chanddi ADHD yw Heather, sy’n gweithio yng Nghaerdydd, lle mae ganddi stiwdio gelf a gofod arddangos gyda Hypha 111. Yn 2024, cyfranogodd yn yr arddangosfa Neursopicy yn Ymbarél Caerdydd/Cardiff Umbrella. Mae’n parhau i archwilio ei libart artistig, ac yn mwynhau creu gwaith sy’n herio canfyddiadau o fod yn ddefnyddiwr Byddar BSL a chanddi ADHD.
Ar hyn o bryd, mae Heather yn gweithio fel hunanliwtiwir gydag Ein Byd Gweledol, Humans Move (cwmni dawns cynhwysol), Deaf Gathering Cymru Canolfan Gelfyddydau Chapter, ac yn ddiweddar mae wedi cyd-sylfaenu sefydliad nid er elw, Deaf Gwdihŵ.

Clara Newman
Gwneuthurwr Byddar o Fangor, gogledd Cymru yw Clara Newman. Mae ar hyn o bryd yn ei hail flwyddyn yn astudio crefftau cynlluniau cyfoes yng Nholeg Celfyddydol Henffordd. Mae’n gweithio mewn cyfryngau cymysg i greu ffurfiau 3D. Mae ganddi ddiddordeb mewn deunyddiau a’u posibiliadau ac mae’n mwynhau arbrofi. Gobaith Clara yw tyfu fel gwneuthurwr a gweithio ochr yn ochr ag ymarferwyr creadigol eraill er mwyn dysgu sut y gallwn dyfu a chynnal ein gilydd.

Tynnwr lluniau ac awdur hunangyflogedig w Natasha Hirst, ac mae’n gweithio ar faterion o gylch anabledd, anghyfartaledd a chyfiawnder cymdeithasol oll wedi eu mowldio gan ei phrofiad o fyw fel menyw fyddar a goroeswr cam-drin domestig. Mae ei gwaith yn pontio newyddiaduraeth a dweud stori ac mae ganddi ymagwedd gydgynhyrchiol tuag at weithio gyda chymunedau er mwyn rhannu’r straeon sy’n bwysig iddynt hwy.
Mae’n undebwr llafur gweithgar a hi yw llywydd cyfredol Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr a chadeirydd Celfyddydau Anabledd Cymru.

Alex Miller
Myfyriwr Tecstiliau yn ei flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Gelfyddydol Plymouth yw Alex. Yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol, mae hefyd yn Gynrychiolydd Anabledd, sy’n golygu sicrhau amgylchedd diogel a chynhaliol ar gyfer myfyrwyr anabl a gwrando ar eu hanghenion. Llynedd, fe wnaeth y brifysgol enwebu gwaith Alex ar gyfer yr Her Fyd-eang, a chafodd ei enw ei roi gerbron yn y Gwobrau Cydwybod Creadigol, lle’r enillodd wobr Efydd yn 2023/2024.
Mae Ein Byd Gweledol wedi ei hyfforddi i gyflwyno teithiau a gweithdai IAP/BSL. Fe’i hystyria ei hun yn artist, artist cain yn bennaf, ac mae gan ei waith gyswllt cryf â thecstiliau.Cafodd Alex ei fagu yng Nghasnewydd a mynychu dwy ysgol breswyl yn Lloegr cyn mynd i’r coleg yng Nghymru. Roedd y rhain yn amseroedd heriol, yn enwedig yn ystod blynyddoedd pandemig Covid-19.

Artist gweledol, Mam a Menyw Fyddar yw Emily Rose. Ei dyhead yw gwneud pethau yn haws eu cyrraedd…Ydy hynny’n ormod i’w ofyn yn 2024? Defnyddia emosiynau amrwd i archwilio’r daith ddryslyd wych o fod yn fam gan ddefnyddio cyfryngau cymysg, celf haniaethol a ffilm fideo. Mae’n gweithio yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Melissa Payne
Mae Melissa Payne yn Artist Gweledol hynod fyddar. Cafodd ei magu gerllaw Bae’r Tri Chlogwyn ar Benrhyn godidog Gwyr, sydd wedi ei ddynodi yn ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae’n Artist Wneuthurwr, sy’n ymgymryd â gwaith comisiwn ac yn creu llawer o weithiau celf gan gynnwys celf gain, enamel, gwaith seramig, gwydr lliw a dylunio patrwm arwyneb. Mae’n gwerthu ei gwaith celf mewn orielau a ffeiriau. Mae ei gwaith yn aml yn organig ei natur a thrwy’r darnau, ei nod yw defnyddio’I hunanianeth fyddar i gyfathrebu gyda’r byd.

Emily Rose
Artist gweledol, Mam a Menyw Fyddar yw Emily Rose. Ei dyhead yw gwneud pethau yn haws eu cyrraedd…Ydy hynny’n ormod i’w ofyn yn 2024?
Defnyddia emosiynau amrwd i archwilio’r daith ddryslyd wych o fod yn fam gan ddefnyddio cyfryngau cymysg, celf haniaethol a ffilm fideo. Mae’n gweithio yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.