Meet the Artists

Arts and Activism

Artist gweledol, Mam a Menyw Fyddar yw Emily Rose.  Ei dyhead yw gwneud pethau yn haws eu cyrraedd…Ydy hynny’n ormod i’w ofyn yn 2024?  Defnyddia emosiynau amrwd i archwilio’r daith ddryslyd wych o fod yn fam gan ddefnyddio cyfryngau cymysg, celf haniaethol a ffilm fideo.  Mae’n gweithio yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. 

Alex Miller

Myfyriwr Tecstiliau yn ei flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Gelfyddydol Plymouth yw Alex. Yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol, mae hefyd yn Gynrychiolydd Anabledd, sy’n golygu sicrhau amgylchedd diogel a chynhaliol ar gyfer myfyrwyr anabl a gwrando ar eu hanghenion. Llynedd, fe wnaeth y brifysgol enwebu gwaith Alex ar gyfer yr Her Fyd-eang, a chafodd ei enw ei roi gerbron yn y Gwobrau Cydwybod Creadigol, lle’r enillodd wobr Efydd yn 2023/2024. 

Mae Ein Byd Gweledol wedi ei hyfforddi i gyflwyno teithiau a gweithdai IAP/BSL. Fe’i hystyria ei hun yn artist, artist cain yn bennaf, ac mae gan ei waith gyswllt cryf â thecstiliau.Cafodd Alex ei fagu yng Nghasnewydd a mynychu dwy ysgol breswyl yn Lloegr cyn mynd i’r coleg yng Nghymru. Roedd y rhain yn amseroedd heriol, yn enwedig yn ystod blynyddoedd pandemig Covid-19.

Clara Newman

Gwneuthurwr Byddar o Fangor, gogledd Cymru yw Clara Newman. Mae ar hyn o bryd yn ei hail flwyddyn yn astudio crefftau cynlluniau cyfoes yng Nholeg Celfyddydol Henffordd. Mae’n gweithio mewn cyfryngau cymysg i greu ffurfiau 3D. Mae ganddi ddiddordeb mewn deunyddiau a’u posibiliadau ac mae’n mwynhau arbrofi. Gobaith Clara yw tyfu fel gwneuthurwr a gweithio ochr yn ochr ag ymarferwyr creadigol eraill er mwyn dysgu sut y gallwn dyfu a chynnal ein gilydd.

Natasha Hirst

Tynnwr lluniau ac awdur hunangyflogedig w Natasha Hirst, ac mae’n gweithio ar faterion o gylch anabledd, anghyfartaledd a chyfiawnder cymdeithasol oll wedi eu mowldio gan ei phrofiad o fyw fel menyw fyddar a goroeswr cam-drin domestig. Mae ei gwaith yn pontio newyddiaduraeth a dweud stori ac mae ganddi ymagwedd gydgynhyrchiol tuag at weithio gyda chymunedau er mwyn rhannu’r straeon sy’n bwysig iddynt hwy.

Mae’n undebwr llafur gweithgar a hi yw llywydd cyfredol Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr  a chadeirydd Celfyddydau Anabledd Cymru.

Melissa Payne

Mae Melissa Payne yn Artist Gweledol hynod fyddar.  Cafodd ei magu gerllaw Bae’r Tri Chlogwyn ar Benrhyn godidog Gwyr, sydd wedi ei ddynodi yn ardal o harddwch naturiol eithriadol.  Mae’n Artist Wneuthurwr, sy’n ymgymryd â gwaith comisiwn ac yn creu llawer o weithiau celf gan gynnwys celf gain, enamel, gwaith seramig, gwydr lliw a dylunio patrwm arwyneb. Mae’n gwerthu ei gwaith celf mewn orielau a ffeiriau.  Mae ei gwaith yn aml yn organig ei natur a thrwy’r darnau, ei nod yw defnyddio’I hunanianeth fyddar i gyfathrebu gyda’r byd.

Heather Williams

Artist Byddar a chanddi ADHD yw Heather, sy’n gweithio yng Nghaerdydd, lle mae ganddi stiwdio gelf a gofod arddangos gyda Hypha 111. Yn 2024, cyfranogodd yn yr arddangosfa Neursopicy yn Ymbarél Caerdydd/Cardiff Umbrella. Mae’n parhau i archwilio ei libart artistig, ac yn mwynhau creu gwaith sy’n herio canfyddiadau o fod yn ddefnyddiwr Byddar BSL a chanddi ADHD.

Ar hyn o bryd, mae Heather yn gweithio fel hunanliwtiwir gydag Ein Byd Gweledol, Humans Move (cwmni dawns cynhwysol), Deaf Gathering Cymru Canolfan Gelfyddydau Chapter, ac yn ddiweddar mae wedi cyd-sylfaenu sefydliad nid er elw, Deaf Gwdihŵ.