

Supporting Deaf Visual Artists in South Wales.
Cliciwch yma am BSL
Gweledigaeth a chenhadaeth
A ninnau yng nghalon de Cymru, pwrpas Ein Byd Gweledol yw estyn cymorth ac adnoddau i Artistiaid Gweledol Byddar ledled ein gwlad.
Mae ein cenhadaeth yn trosgynnu ffiniau daearyddol wrth i ni geisio meithrin cymuned lewyrchus lle bo Artistiaid Gweledol Byddar yn blodeuo ac yn ffynnu.
Yr ydym yn angerddol ynghylch datblygu a chynnal cysylltiadau ystyrlon rhwng Artistiaid Gweledol Byddar a chynghreiriaid allweddol o fewn orielau ac amgueddfeydd gan sicrhau fod eu lleisiau yn cael eu clywed. Drwy bartneriaethau a chydlafurio strategol, gweithiwn i wneud yn siwr fod Artistiaid Gweledol Byddar nid yn unig yn cael eu gweld ond hefyd eu dathlu am eu persbectif a’u cyfraniad unigryw.
Mae ein gweledigaeth yn ymestyn y tu hwnt i gynrychiolaeth yn unig; ein hymrwymiad yw adeiladu sylfaen gadarnach a chynyddu cynwysoldeb. Drwy rannu dealltwriaeth a gwerthfaworgiad, ceisiwn chwalu rhagfuriau a chreu gofod mwy agored a chroesawgar I alluogi Artistiaid Gweledol Byddar i ffynnu.

Sut y daethom I fod
Cliciwch yma am BSL

Syniad gwreiddiol yr Artistiaid Gweledol Byddar, yr actifyddion a’r ymgyrchwyr Jonny Cotsen a Jane Simpson, sy’n cynnal Artistiaid GS/GS Artists yn Abertawe, ydoedd hwn drwy bartneriaethu gyda Chelfyddydau Anabledd Cymru, Clwb Byddar Llanelli ac Oriel Gelf Glynn Vivian.
Fe wnaethom geisio cyfarwyddyd a chymorth pobl brofiadol yn y cymunedau Byddar a Chelf sef: Rubbena Aurangzeb-Tariq, sy’n Fyddar ac yn Seicotherapydd Celf, Heather Williams, sy’n arbenigo mewn rheoli projectau ac mewn Ymgynghoriaeth BSL/Mynediad, a Tom Goddard, sy’n artist ac yn drwm ei glyw ers ei eni.
Project Cysylltu a Ffynnu Yw Ein Byd Gweledol, drwy gymorth Cyngor Celfyddydau Cymru.
Cyfarfod â’r tîm/criw
Ein Harweinydd Byd Gweledol a'n HarlunyddMae gan Heather Williams flynyddoedd lawer o brofiad mewn rheoli projectau, codi arian, a hawliau lles pobl fyddar ac anabl a hynny yn y trydydd sector. Yn ddiweddar mae Heather wedi trosglwyddo’r sgiliau hynny i’r sector creadigol drwy fynd yn Hunanliwitiwr Creadigol wrth reoli projectau, Ymgynghori BSL, arwain Teithiau BSL, yn ogystal â bod yn hwylusydd gweithdai ac yn Gynorthwydd Personol i artistiaid niwroamrywiol. Mae’n angerddol ei chefnogaeth i’r gymuned gelfyddydol fyddar drwy rwydwaith Artistiaid Gweledol Byddar y Deyrnas Gyfunol, gan fentora, arwain gweithdai a darparu teithiau BSL. Yn 2024, cyfranogodd yn yr arddangosfa Neursopicy yn Ymbarél Caerdydd/Cardiff Umbrella.
Emily Rose
Artist gweledolArtist gweledol, Mam a Menyw Fyddar yw Emily Rose. Ei dyhead yw gwneud pethau yn haws eu cyrraedd…Ydy hynny’n ormod i’w ofyn yn 2024? Defnyddia emosiynau amrwd i archwilio’r daith ddryslyd wych o fod yn fam gan ddefnyddio cyfryngau cymysg, celf haniaethol a ffilm fideo. Mae’n gweithio yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Kate Evans
Tynnwr lluniau yn Ne CymruKate Evans, Tynnwr lluniau yn Ne Cymru yw Kate Evans. Cipio eiliadau a dweud storïau yw’r hyn sy’n nodweddu ei gwaith yn ogystal â chyfleu natur yn symud drwy ddilyn llif y dŵr mewn rhaeadrau er enghraifft. Mae’n hoffi arbrofi gyda gwahanol ffurfiau a chyfryngau celf. Mae wrth ei bodd yn ymwneud â phobl a darganfod eu personoliaethau sef yr hyn sy’n eu gwneud yr hyn ydynt. Mae’n cael pleser mawr yng nghanol byd natur wrth fynd i ymdrochi mewn dŵr oer gan fod hynny yn sbarduno meddylgarwch.
Ein Partneriaid

Canolfan Fyddar Llanelli

Oriel Gelf Glynn Vivian

Artistiaid GS

Celfyddydau Anabledd Cymru